[neidio i'r prif gynnwys]

Fersiwn Gymraeg|English Version
Tafarn y Fic, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd
Ffoniwch ni ar01758 750473    eBostiwch ni arswyddfa@tafarnyfic.com

Llwybrau Cerdded Treftadaeth Llithfaen

Llwybr Gwyn Plas

Llwybr Gwyn PlasYm mis Medi 2006, bu farw Gwyn Elis - Gwyn 'Plas' i bawb - yn sydyn a llawer iawn cyn pryd. Roedd teimlad cryf yn y pentref y dylid dathlu cyfraniad Gwyn i'r ardal - roedd yn un o sylfaenwyr Tafarn y Fic, yn ymddiredolwr cynnar yn Nant Gwrtheyrn, yn un o drefnwyr Gŵyl y Nant, yn arweinydd teithiau cerdded ac yn ymwneud â chymdeithas hanes a threftadaeth Yr Eifl.

Codwyd bron i £6,000 mewn cronfa arbennig drwy roddion ac ocsiwn addewidion. Crewyd cynllun treftadaeth i lunio taith gerdded 'Llwybr Gwyn Plas' o gwmpas y pentref a denwyd nawdd gan Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau a Chronfa Datblygu Cynaliadwy, Cyngor Gwynedd.

Agorodd y llwybrau yn swyddogol dros y Pasg ym mis Ebrill 2009, gyda gŵyl arbennig i ddathlu’r achlysur. Mae'r llwybr wedi'i farcio’n daclus gydag arwyddion derw o waith Signs Workshop. Mae 'cerrig gwybodaeth' yn dynodi hanesion lleol yma ac acw gyda phlaciau o ithfaen yr Eifl wedi’u hysgythru gan gwmni Cerrig, Pwllheli ac mae gwylfa arbennig ar ystlys ar Eifl sy'n nodi enwau sy'n perthyn i'r olygfa a welir o Gaergybi i Benfro a welir o'r llwybr hwn.

Mae’r llwybr yn cysylltu â llwybrau eraill:

Llwybr Arfordir Llŷn, Llwybr Eglwys Carnguwch, Llwybr Nant Gwrtheyrn, a Llwybrau'r Eifl a Thre'r Ceiri. Lluniwyd logos gan Sioned Wyn Jones ar gyfer yr holl lwybrau ac mae arwyddion derw yn eu dynodi hwythau’n glir.

Celf y Chwarelwyr

Ymestyniad o gynllun Llwybr Gwyn Plas oedd codi cofeb i chwarelwyr lithfaen Chwarel Cae'r Nant, Porth y Nant a Chwarel Carreg y Llam ger y maes parcio yn nhop Nant. Cyflwynwyd syniad y tri maen gan Arfon Hughes, Porth Tocyn; gwnaed llwyfan o hen sets Trefor gan Dylan ac Iwan Foel; cyfansoddwyd cywydd gan Myrddin ap Dafydd a chrewyd y gwaith celf gan Rolant George o Danygrisiau.

Saif y gwaith celf ar lwybr y chwarelwyr o bentref Llithfaen i'r chwareli. Yn nhop Nant, ar ddyddiau brochus yn y gaeaf, byddai'n rhaid i'r chwarelwyr gropian ar eu pedwar am ran o'r llwybr, gan fod y gwynt mor gryf.

Rhagor o Wybodaeth

  »  Llwybr Gwyn Plas

  »  Cerrig milltir Llwybrau Treftadaeth Llithfaen

  »  Taith gerdded Tri Copa'r Eifl (Sadwrn 2il Mai, 2009)

  »  Seremoni agor Llwybr Gwyn Plas (Sul 3ydd Mai, 2009)

  »  Dathlu agor Llwybr Gwyn Plas yn Nhafarn y Fic (Sul 3ydd Mai, 2009)

  »  Adloniant yn Nhafarn y Fic ar achlysur agor Llwybr Gwyn Plas (Sul 3ydd Mai, 2009)