[neidio i'r prif gynnwys]

Fersiwn Gymraeg|English Version
Tafarn y Fic, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd
Ffoniwch ni ar01758 750473    eBostiwch ni arswyddfa@tafarnyfic.com

Croeso i wefan Tafarn y Fic

Tafarn y Fic yn Llithfaen, Pwllheli, GwyneddCroeso i wefan Tafarn y Fic, tafarn gymunedol Gymraeg yn Llithfaen, ger Pwllheli.

Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl ardal Llithfaen gwmni cydweithredol a chodi cyfalaf i brynnu Tafarn y Fic. Ers hynny mae wedi tyfu’n dafarn gymdeithasol Gymreig yn darparu amrywiaeth o adloniant Cymraeg ac yn cynnig cyflogaeth leol.

Dewisiwch o'r rhestr dolenni uchod i ddarganfod mwy am y Fic a be' sy' gennym i'w gynnig, neu defnyddiwch y lincs sydyn isod:

Os hoffech ragor o wybodaeth, yna mae croeso i chi gysylltu efo ni.

Tafarn y Fic - Tafarn Gymunedol Gymreig.

“Mae anadl rhwng ei meini – yfory’n
fawr yn ei seleri,
swn parhau’n ei hwyliau hi,
gwanwyn yn ei chasgenni.”
Myrddin ap Dafydd
“Hen ddoniau sy’n diddanu – Gymru hen
Yn Gymraeg yn canu,
Ac mae’r don o groeso’n gry;
Diferyn, a difyrru.”
Prysor
“Yn ôl arfer y clerwr,
Mi fûm yn canu ‘mhob cwr;
Gwn lle sy orau gen-i:
Canu’n Y Fic a wnaf i.”
Twm Morys

Logo Llywodraeth Cynulliad CymruLogo FacebookCefnogwyd menter Tafarn y Fic gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ymholiadau? Ffoniwch ni ar 01758 750473 neu eBostiwch ni ar swyddfa@tafarnyfic.com.

Diolch am ymweld â'r wefan ~ mi welwn ni chi'n fuan yn y Fic gobeithio.