[neidio i'r prif gynnwys]

Fersiwn Gymraeg|English Version
Tafarn y Fic, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd
Ffoniwch ni ar01758 750473    eBostiwch ni arswyddfa@tafarnyfic.com

Cyfleusterau Tafarn y Fic

Y Bar

Galwch yn y bar am groeso cynnes a chwrw da.

Oriau agor:

  • Dydd Llun: 7yh– 11yh
  • Dydd Mawrth: 7yh– 11yh
  • Dydd Mercher: 7yh– 11yh
  • Dydd Iau: 7yh– 11yh
  • Dydd Gwener: 4yp– 11:30yh
  • Dydd Sadwrn: 12yp– 11:30yh
  • Dydd Sul: 4yp– 9yh

Mae yma fwrdd pŵl a dartiau, a thimau sy'n chwarae mewn cynghreiriau.

Bydd cwis hwyliog yn cael ei gynnal yn y bar unwaith y mis. I weld pryd mae'r cwis nesaf, ewch i gael golwg ar y rhestr digwyddiadau.

Nosweithiau adloniant cyson – i weld beth sydd ar y gweill, ewch i gael golwg ar y rhestr digwyddiadau.

Ystafell Gymunedol

Ystafell aml-bwrpas fodern ar gael i'w llogi i gynnal cynadleddau, cyrsiau, cyfarfodydd neu barti preifat. Gyda dwy ffenestr fawr a golygfeydd hyfryd, mae'n le delfrydol i gynnal unrhyw weithgaredd.

  • Gall ddal hyd at 40 o bobl a'i gosod fel bo'r angen
  • Yn cynnwys 6 pwynt adnoddau, taflunydd a seinyddion
  • Offer cyfrifiadurol ar gael
  • Mynediad a chyfleusterau i'r anabl
  • Lluniaeth i'w drefnu
  • Maes parcio preifat
  • Prisiau rhesymol iawn

Am fwy o fanylion, cysylltwch â'r Dafarn ar 01758 750473 neu gyrrwch eBost at swyddfa@tafarnyfic.com

Cyfleusterau Anabl

Mae yma lifft i bob llawr, a tholiedau i'r anabl.

AbilityNetFel rhan o brosiect Ability Net, mae Tafarn y Fic yn ganolfan all gynnig offer cyfrifiadurol arbennig sy'n galluogi addasu'r cyfrifiadurol ar gyfer unigolion er mwyn cael y defnydd gorau ohonynt. Fel rhan o'r prosiect, gallwn groesawu pobl ag anghenion arbennig ar gyrsiau sy'n cael eu cynnal yn Nhafarn y Fic.

Am fwy o fanylion am brosiect Ability Net, ymwelwch â www.abilitynet.org.uk.

I wybod pa gyrsiau sydd ar y gweill, ewch i'r rhestr digwyddiadau.