Menter Tafarn y Fic...
Yn ystod yr 1980au daeth y dafarn o dan fygythiad y bragdy nad oedd yn rhagweld unrhyw ddyfodol iddi fel tafarn mewn pentref chwarel oedd wedi gweld ei dyddiau gwell. Bryd hynny, camodd y pentrefwyr i'r bwlch a phrynnu'r adeilad er mwyn ei chadw ar agor.
Ar droad y ganrif hon aeth y Pwyllgor Rheoli ati i chwilio am grantiau Amcan Un, er mwyn gweddnewid yr adeilad. “Doedd ‘na ddim digon o adnoddau yn y dafarn i wneud bywoliaeth go iawn. Roedd yr adeilad wedi dirywio hefyd ac oedd rhaid ei weddnewid yn llwyr os oeddan ni am ei chadw ar agor” meddai Gwyn Plas. Wedi dyfalbarhau am flynyddoedd, crewyd cynllun derbyniol a sicrhawyd digon o arian i wneud y gwaith adeiladu.
Yn ystod mis Tachwedd 2004, agorwyd drysau Tafarn y Fic ar ei newydd wedd. Wedi'r holl waith o dwtio, ail-doi, a chodi clamp o estyniad, roedd y dafarn yn barod i groesawu'r gymuned unwaith eto, ond erbyn hyn yn deirgwaith ei maint gwreiddiol. Elfen bwysig iawn o'r cynllun yw'r Ystafell Gymunedol, sy'n cynnwys offer cyfrifiadurol ac yn gallu cynnal amryw o weithgareddau. Mae'r gegin arlwyo, a chyfleusterau i'r anabl hefyd yn ddatblygiadau pwysig er mwyn i'r fenter barhau a ffynnu yn y dyfodol.
"Mae'r Fic yn parhau yn dafarn bentref, ond hefyd yn lle bwyta fydd yn tynnu pobl o bell ac agos a hefyd yn parhau â'r traddodiad o fod yn dafarn sy'n cynnig pob math o adloniant Cymraeg i'r ardal” meddai John Llyfnwy.
Yn lle bod yn dafarn denant, dan reolaeth y cyfarwyddwyr mae'r Fenter yn ei reoli erbyn hyn, gyda'r elw i gyd yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r gymuned. Gobaith Cwmni'r Fic yw y bydd y busnes yn gyflogwr allweddol yn y pentref yn y dyfodol gyda phob math o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu denu yno yn sgil yr adnoddau sydd gan y dafarn i'w cynnig.