Nodweddion Llwybr Gwyn Plas
- Dilynwch yr arwyddion o amgylch y pentref
- Taith dan 2 filltir o hyd; tro teuluol
- Parciwch yng nghefn Tafarn y Fic / Top Nant Gwrtheyrn
- Chwe charreg gyda gwybodaeth bellach
- Cerflun cofio'r chwarelwyr yn Nhop Nant
- Cysylltu â nifer o lwybrau lleol eraill
Lluniwyd y llwybr treftadaeth hwn er cof am Gwyn Elis, hanesydd leol, arweinydd teithiau cerdded, ymddiriedolwr Nant Gwrtheyrn ac un o sylfaenwyr Menter Gydweithredol Tafarn y Fic. Cymeriad llawen oedd Gwyn, yn mwynhau pob agwedd ar ei dreftadaeth.
Gweler isod am fanylion Llwybr Gwyn Plas.
1. Tafarn y Fic
Adeiladwyd y dafarn yn 1869. Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl leol gwmni cydweithredol a chodi arian i brynu'r dafarn oedd erbyn hynny wedi'i chau gan y bragdy. Tyfodd yn ganolfan gymdeithasol bwysig a daeth ei nosweithiau o adloniant Cymraeg yn enwog ar draws gwlad. Moderneiddiwyd yr adeilad a rhoi estyniad arno yn 2004 gan greu ystafell gymunedol a bwyty'r Daflod, yn ogystal â pharhau fel tafarn Gymreig.
2. Y Groes, Llithfaen
Pentref y tair chwarel ithfaen oedd Llithfaen: Y Nant, Cae’r Nant a Charreg y Llam. Byddai’r ffordd i fyny am y Nant yn ddu gan gannoedd o chwarelwyr yn anterth y diwydiant. Arbenigai Chwarel y Nant ar wneud sets a gâi eu hallforio ar longau stêm i wynebu strydoedd y dinasoedd. Roedd traddodiad cryf o fusnesau cydweithredol dan reolaeth y chwarelwyr yn y pentref.
3. Y Wal Fawr
Codwyd y wal fynydd hon tua 1815 gan filwyr di-waith a ddychwelodd o frwydr Waterloo. Mae’r caeau sgwarog yr ochr isaf i’r wal, sydd wedi’u marcio gan syrfewyr, yn perthyn i’r un cyfnod – dyma’r tir a gafodd ei ddwyn gan stadau’r tirfeddianwyr oddi ar y bobl gyffredin leol gan ddeddf amgáu Tiroedd Comin yr Eifl. Amcenir bod dros filiwn o aceri o dir Cymru wedi ei gau yn y cyfnod hwn, sef rhyw un rhan o bump o’r wlad gyfan.
4. Cae'r Mynydd
Gan ddefnyddio cragen fôr fawr, galwodd Robert William Hughes, Cae’r Mynydd ar drigolion Llithfaen i ddod ynghyd i wrthwynebu’r swyddogion a’r mesurwyr tir ym Medi 1812. Bu terfysg ond daeth y Dragoons yn ôl a daliwyd Robert Hughes yn ei gartref yn cuddio mewn car bara oedd yn crogi o’r nenbren. ‘The king against Robert William Hughes, for a Riot’ oedd y cyhuddiad yn y llys. Trawsgludwyd Robert Hughes yn 1813 i Awstralia i dreulio gweddill ei oes yn Botany Bay.
5. Capel Isaf
Tyfodd poblogaeth Llithfaen yn rhyfeddol yn ystod oes aur y chwareli – ac roedd rhaid codi capel newydd bob rhyw 20 mlynedd i wasanaethu’r Methodistiaid. Agorwyd yr olaf, Capel Isaf, yn Rhagfyr 12fed, 1905 ac erbyn hynny roedd dros 850 yn byw yn yr ardal. Nodwedd unigryw y capel yw’r galeri gron i’r côr y tu ôl i’r Sêt Fawr a’r pulpud. Mae galeri’r côr yn nodi traddodiad corawl arbennig oedd yn perthyn i ardal Llithfaen – roedd yma gorau meibion, corau cymysg a chorau plant nodedig. Daeth y diwylliant hwn i’r brig pan gipiodd Côr Meibion Llithfaen y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 ac eto yn Aberpennar, 1945.
6. Eglwys Carnguwch
Mae hanes yr eglwys hon, sydd wedi’i chysegru i Beuno Sant, yn mynd yn ôl i’r seithfed ganrif. Saif mewn llecyn tawel, gwledig uwch llechwedd serth sy’n disgyn at lannau afon Erch. Dadgysegrwyd yr eglwys ond daliwyd i gladdu yn y fynwent hyd y 1970au. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ffurfiwyd Cyfeillion Eglwys Carnguwch i warchod y safle.
Tre’r Ceiri (hen gaer Frythonig) a Nant Gwrtheyrn
Cofio Chwarelwyr Llithfaen
Mae cofeb ithfaen i chwarelwyr tair chwarel orllewinol yr Eifl wedi’i chodi ger y maes parcio yn nhop Nant Gwrtheyrn.
Ar Lwybr Chwarel
Pan gerddai gweithwyr Llithfaen i’w gwaith yn chwareli’r Nant yn y gaeaf, byddai’n rhaid iddynt grafangu ar hyd llwybr y bwlch ar eu pedwar pan fyddai’n stormus iawn.
Ar eu pedwar, pwy ydynt
' ddaw i'w gwaith drwy ddannedd gwynt?
Gwŷr caeth i fara'r graig hon
a'u gwinedd ynddi'n gynion,
haf neu aeaf, yr un iau
o gerrig ar eu gwarrau.
Ond hwy, ar lwybr yr wybren,
yn plygu, baglu i ben
y mynydd, hwy yw meini
conglau ein waliau – a ni,
mor bell o gyllell y gwynt,
yw’r naddion o’r hyn oeddynt.
Myrddin ap Dafydd
Noddwyr a chrefftwyr
Derbyniodd Gronfa Gwyn Plas roddion niferus gan bobl o ardal eang er cof amdano. Denwyd nawdd pellach gan Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru, a Chronfa Datblygu Cynaliadwy.
- Arwyddion llwybrau: Signs Workshop, Coed y Brenin
- Cyngor ar gynllun: Arfon Huws, Bwlchtocyn
- Gwaith meini: Dylan ac Iwan Foel, Llithfaen
- Logos y llwybrau: Sioned Jones
- Gwaith celf: Roland George, Tanygrisiau
- Gwefan: DREAM Internet Solutions Cyf.
- Gweinyddwyr: Tafarn y Fic
- Dylunio ac argraffu: Gwasg Carreg Gwalch
- Ysgythru’r ithfaen: Cerrig Cyf., Pwllheli
- Meini ithfaen: Mr R.T Davies, Trefor Granite Products Ltd
Cerrig Gwybodaeth