[neidio i'r prif gynnwys]

Fersiwn Gymraeg|English Version
Tafarn y Fic, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd
Ffoniwch ni ar01758 750473    eBostiwch ni arswyddfa@tafarnyfic.com

Cerrig Milltir Llwybrau Treftadaeth Llithfaen

Cerrig Milltir Llwybrau Treftadaeth Llithfaen

Robert William Hughes, Cae'r Mynydd

Cae'r NantYn 1812, daeth swyddogion y stadau a'r gyfraith a'r mesurwyr tir i Lithfaen i syrfeio'r tir comin. Roedd nifer o dai unnos a sgwatwyr yn byw ar y mynydd o dan hen draddodiad gwlad - ac un o'r tai hynny oedd Cae'r Mynydd. Wrth amgau tiroedd comin, dim ond y trigolion oedd yn byw ar y tir ers dros ugain mlynedd oedd yn cael cadw'u heiddo.

Gan ddefnyddio cragen fôr fawr, galwodd Robert William Hughes, Cae'r Mynydd ar drigolion Llithfaen i ddod ynghyd i wrthwynebu'r swyddogion a'r mesurwyr tir ym Medi 1812. Ymgasglodd y trigolion ar y mynydd a thaflu cawodydd o gerrig at y swyddogion. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, daeth y Dragoons i Lithfaen a dalwyd rhai o'r terfysgwyr a'u carcharu am chwe mis. Ond roedd y gragen wedi'i chwythu eto'r tro hwnnw a'r rhan fwyaf o'r terfysgwyr wedi llwyddo i ddianc i'r mynydd a chuddio rhag y gwyr meirch.

Daeth yr awdurdodau i ystyried Robert Hughes, dyn y gragen, fel 'Captain of the mob'. Daeth y Dragoons yn ôl i Lithfaen ym Mawrth 1813, ond roedd yr holl dai yn wag unwaith eto. Daeth y milwyr yn ôl yn y nos, ac yn ôl un traddodiad gwerin, dal Robert Hughes yng Nghae'r Mynydd yn cuddio mewn car bara oedd yn crogi o'r nenbren. Bu nifer o fân sgarmesoedd wrth i'r gwyr meirch ddal rhai eraill o'r terfysgwyr a mynd a nifer i garchar Caernarfon. Nid dros yr Eifl a thrwy Lanaelhaearn y gwnaed y daith honno - ond drwy dir diogelach llawr gwlad, rownd Pwllheli a Thremadog.

'The king against Robert William Hughes, for a Riot' oedd y cyhuddiad yn y llys. Dirwywyd a charcharwyd rhai o'r terfysgwyr - amryw ohonynt yn ferched - ond dedfrydwyd Robert Hughes ac un arall o'r enw David Rowlands i'w crogi. Yn y diwedd, cawsant 'faddeuant' - trawsgludwyd Robert Hughes yn 1813 i Awstralia i dreulio gweddill ei oes yn Botany Bay.

Yr EiflY Wal Fawr

Codwyd y wal fynydd hon tua 1815 gan filwyr di-waith a ddychwelodd o frwydr Waterloo. Mae'r caeau sgwarog, sydd wedi'u marcio gan syrfewyr, yn perthyn i'r un cyfnod - dyma'r tir a gafodd ei ddwyn oddi ar y bobl gan ddeddf amgau Tiroedd Comin yr Eifl.

Carchar a chosb i'r dyn cyffredin
Am ddwyn yr wydd oddi ar y comin;
Ond parch a geir ac uchel swydd
Am ddwyn y comin oddi ar yr wydd.

Yn niwedd y 18fed ganrif yn arbennig, dechreuodd y symudiad mawr i feddiannu a chau tiroedd yr ucheldir. Roedd y rhain yn golygu tua chwarter tir Cymru - yn diroedd comin yr oedd y werin gyffredin hyd hynny yn rhydd i'w ddefnyddio i bori a thorri mawn oddi arnynt. Parhaodd yr ymgyrch fawr hon ymhell i hanner olaf y 19eg ganrif gan drawsnewid amodau byw y bobol gyffredin yn ogystal ag economi a thirlun cefn gwlad yn gyffredinol. Amcenir bod dros filiwn o aceri o dir Cymru wedi ei gau yn y cyfnod hwn, sef rhyw un rhan o bump o'r wlad gyfan.

Tafarn y Fic

Adeiladwyd y dafarn yn 1869 ac yn wreiddiol roedd ynddi bedair ystafell fechan. Cynhaliai Doctor Jac, y meddyg lleol, ei feddygfa yn un o'r stafelloedd cefn. Roedd stafell arall yn y cefn yn cael ei neilltuo i'r 'Padis' a ddôi i fyny o'r Nant.

Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl leol gwmni cydweithredol a chodi arian i brynnu'r dafarn oedd erbyn hynny wedi'i chau gan y bragdy. Tyfodd yn ganolfan gymdeithasol bwysig yn Llŷn a daeth ei nosweithiau o adloniant Cymraeg yn enwog ar draws gwlad. Denwyd arian ychwanegol i'r fenter a moderneiddiwyd yr adeilad a rhoi estyniad arno yn 2004. Ailagorodd y Fic ei drysau gan ddechrau ar gyfnod newydd o berfformiadau gan rai o artistiaid amlycaf Cymru, yn ogystal ag adloniant brethyn cartref y nosweithiau Lol Botas.

LlithfaenEglwys Carnguwch

Mae hanes yr eglwys yn mynd yn ôl i'r seithfed ganrif ac mae wedi'i chysegru i Beuno Sant, nawdd-sant Clynnog, Penmorfa, Aberffraw, Trefdraeth, Llanycil, Gwyddelwern, Beriw a Betws (Maldwyn) a Llanfenno swydd Henffordd. Ei ddydd gŵyl yw 21ain o Ebrill.

Mae'r enw ar y plwyf (a'r mynydd) yn dipyn o ddirgelwch. Mae rhai'n dyfalu mai Sant oedd Guwch (mae Llangiwch i'w gael ger Abertawe) ac nid oedd hi'n anarferol cael dau sant o fewn yr un plwyf.

Capel o dan y fam-eglwys yng Nghlynnog oedd Carnguwch, a gwasanaethai fel eglwys i'r plwyf hwn. Rhai nodweddion yr adeilad presennol yw gwaith meini cadarn, twr sgwâr i'r gloch a Darllenfa a Phulpud o'r hen ddull - y naill islaw y llall. Mae ynddi eisteddfa sgwâr ar gyfer Llwydiaid y Trallwyn.
Saif mewn llecyn tawel, gwledig uwch llechwedd serth sy'n disgyn at lannau afon Erch. Cynhaliai Curad Pistyll wasanaeth pnawn Sul yma hyd 1882 ac erbyn hynny roedd eglwys Sant Iago Llithfaen wedi'i chodi i wasanaethu'r boblogaeth newydd a dyfodd yn y pentref.

Dadgysegrwyd yr eglwys ond daliwyd i gladdu yn y fynwent hyd y 1970au. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ffurfiwyd Cyfeillion Eglwys Carnguwch i warchod yr adeilad. Ailgodwyd wal y fynwent, gwnaed gwaith gwirfoddol ar y to, y twr, y ffenestri ac ailbaentiwyd y tu mewn. Cynhaliodd y Cyfeillion wasanaeth ynddi ym Mehefin 2008 gyda dros gant o bobl yn bresennol.

Nant GwrtheyrnChwareli'r Eifl (ochr Llithfaen)

Roedd tair chwarel ithfaen ar ochr orllewinol yr Eifl ac i'r rheiny yr âi'r chwarelwyr o Lithfaen a Nant Gwrtheyrn i weithio: Chwarel y Nant, Chwarel Cae'r Nant, Chwarel Carreg y Llam.

Agorwyd Chwarel Carreg y Llam yn 1908 a hi oedd yr olaf i gau - a hynny yn Nhachwedd 1963. Yr un cwmni oedd perchennog Chwarel y Nant ger Nant Gwrtheyrn - yn y blynydoedd cynnar roedd gan y chwarel honno ei llongau eu hun sef Calchfaen, Gwynfaen, Torfaen, Llysfaen a Sylfaen. Bu'r Sylfaen yn cario ffrwydriadau i Rhyfel y Trawsvaal.

Arbenigai Chwarel y Nant ar wneud sets a gâi eu hallforio i wynebu strydoedd a phalmentydd dinasoedd Lloegr. Byddai'r cerrig yn cael eu tipio i lawr y 'shoots' o'r waagenni. 'Cerbydau Pharo' oedd enw'r chwarelwyr ar y wagenni, am eu bod mor drwm i'w gwthio.

Roedd enw ar bob ponc yn y chwareli a dyma rai o bonciau Chwarel y Nant - Ponc Uchaf, Bach, Isaf, Sir Fôn, Buenos Aires, Palestina a Chlogwyn Nefyn. Adeiladwyd pentref Nant Gwrtheyrn yn sgil y gwaith yn y Nant yn yr 1860au. Sea View a Mountain View oedd y ddwy res tai gyda Bay View ar y gornel gyferbyn a Chapel Seilo (adeiladwyd 1878). Drws nesaf i Bay View, roedd Siop y Co-op a'r becws yn y cefn. Tŷ moethus rheolwr y chwarel oedd y Plas.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, bu dwy dyc - peiriannau rhyfel wyth olwyn fedrai symud ar dir a môr - yn rhedeg rhwng Chwarel y Nant a Charreg y Llam yn symud y defnyddiau o'r Nant pan gauwyd y chwarel.

Tre'r CeiriCapel a Chôr Llithfaen

Gan fod Llithfaen ar yr hen briffordd o Arfon i Lyn, i'r pentref hwn y daeth y pregethwyr Methodistaidd cyntaf. Yn ôl hen draddodiad yng Nghae Grug, yn ymyl lle codwyd Capel Moriah wedi hynny, y bu'r cyfarfod pregethu cyntaf - diwrnod o haf oedd hi a throl oedd y pulpud.

Ffermdy bychan o'r enw Abergafren oedd y ty cwrdd cyntaf a chodwyd y capel cyntaf tua 1780 lle saif y Ganolfan (yr hen ysgol) heddiw. Capel to gwellt a llawr pridd oedd hwnnw.

Ar dir fferm Llithfaen Fawr y codwyd yr ail gapel (1804) - am y clawdd â'r capel presennol. Yno hefyd y codwyd y trydydd capel yn 1834, a chynhaliwyd Ysgol Ddyddiol yn hwnnw hefyd. Yn 1841 poblogaeth plwyf Pistyll oedd 514 a phoblogaeth plwyf Carnguwch oedd 119.

Adeiladwyd y pedwerydd capel yn 1870, ar safle'r un presennol - roedd yn un o'r capel di-oriel mwyaf yn Llŷn ac Eifionydd. Ymhen ugain mlynedd, roedd hwnnw eto yn rhy fychan a bu raid uno'r cyntedd a'r capel i greu mwy o eisteddleoedd.

Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif roedd rhaid atgyweirio neu ailadeiladu. Penderfynwyd codi capel newydd ac ychwanegu festri ato. Evan Roberts 'y Diwygiwr' a gynhaliodd y gwasanaeth crefyddol cyntaf yn y capel newydd, ar Rhagfyr 12fed, 1905. Erbyn 1901, poblogaeth y plwyfi oedd: Pistyll-739, Carnguwch-112.

Nodwedd arbennig y capel yw'r galeri gron i'r côr y tu ôl i'r Sêt Fawr a'r pulpud - mae'n unigryw drwy Gymru ac roedd rheswm dros gofrestru'r adeilad o safbwynt cadwraeth. Mae galeri'r côr yn nodi traddodiad corawl arbennig oedd yn perthyn i ardal Llithfaen - roedd yna gorau meibion, corau cymysg a chorau plant nodedig. Daeth y diwylliant hwn i'r brig pan gipiodd Côr Meibion Llithfaen y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 ac eto yn Aberpennar, 1945.

Llyfryddiaeth

  • Ffeiliau Gwyn Plas
  • O Ben Llŷn i Botany Bay, Ioan Mai, Gwasg Carreg Gwalch, 1993
  • Llŷn, Elfed Gruffydd, Gwasg Carreg Gwalch, 1998
  • Adroddiad Cronfa Adeiladu Capel M.C. Llithfaen, Pwllheli 1910